Eldra                                               Teleri Gray

     


Ar gael am y tro
cyntaf ar DVD


Romani go iawn oedd yr Eldra Roberts wreiddiol,
ac ar hanes ei phlentyndod hi mae’r
ddrama Eldra wedi ei seilio

Gwylio yma!                                                Author - Stef Solomon Bate 2007

Mae Eldra ym ymwneud a'r tensiwn a'r gwahaniaeth diwylliannol rhwng y Sipsiwn Cymreig â'r gymuned fechan lle mae disgwyl iddynt gyd-fyw.  Mae'r holl ddigwyddiadau (yn 1930au) yng nghysgod Chwarel y Penrhyn.  Cyfaredd bachgen ysgol gyda'r Sipsi fach droednoeth sy'n ennyn cenfigen yn ei frawd.  O rhywle daw Taid Eldra yn ei garafan a rhybuddio na all y ddau ddiwylliant fyth gyd-fyw.  Hyn i gyd yn creu drama hynod o ddiddorol!

Cynhyrchwyd Eldra yn wreiddiol gan Teliesyn ar gyfer S4C.  
Fe’i darlledwyd ar y teledu yn 2001 ag fe enillodd bump o wobrau BAFTA Cymru:

*  BAFTA Cymru 2001: Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau (drama); Dylunio Gorau;         Gwisgoedd Gorau; Cerddoriaeth Wreiddiol Orau; Drama Orau;
*  Gwyl Ffilm Ryngwladol Cymru 2001: Gwobr Cynulleidfa Filmfour

*  Moondance Film Festival 2003: Ffilm Hir Orau (Spirit of Moondance);
*  Gwyl Ffilm a Theledu Geltaidd Belfast 2003: Gwobr y Rheithgor.


Robin Huw Bowen

Mae dylanwad Robin Huw Bowen ar y byd Gwerin Cymreig ac ar hanes y Delyn yng Nghymru yn un eang a phwysig.  Ers 1983, mae wedi arwain achos y Delyn Deires ar lefel fyd-eang, drwy gyflawni teithiau mewn nifer helaeth o wledydd, a chyflwyno cerddoriaeth Gymreig i filoedd led-led y byd.  Yng Ngŵyl Machynlleth 2000, dyfarnwyd i Robin Wobr Glyndŵr, am "gyfraniad arbennig i'r celfyddydau yng Nghymru", ac yn 2002 enillodd BAFTA (Cymru) am ei gerddoriaeth wreiddiol i'r ffilm Eldra [c. RH Bowen]

Robin . . .



Y Sipsiwn Cymreig -
Er na wyr llawer amdanynt fe gafodd y Sipsiwn Cymreig ddylanwad unigryw ar ddiwylliant a hanes Cymru.

Mae’n debyg iddynt gyrraedd yma yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. Datblygodd perthynas arbennig rhyngddynt â’r ffermwyr a phobol cefn gwlad.  Fe fyddent yn dychwelyd i’r ardaloedd yn ôl trefn y tymhorau.  Hwy wnaeth y ffidil yn offeryn poblogaidd ag ar yr un pryd fe gymeron nhw y delyn Gymreig i’w calon ag i’w dwylo.  Bu telynorion o waed y Sipsi yn chwarae’r delyn gerbron teulu’r brenin a boneddigion yn eu plasdai ag hefyd i’r werin mewn aml i noson lawen.  Oherwydd natur ddiarffordd aml i le rhwng mynyddoedd Cymru, fe lynodd y Sipsiwn Cymreig at eu ffurf unigryw o iaith y Romani.  Dim ond ychydig bellach sy’n gallu ei siarad.

Romani Cymru . . .


Roedd Eldra’n un o ddisgynyddion Abram Wood
ac adwaenir ef a’i deulu fel “y Sipsiwn Cymreig” gan mai nhw oedd y llwyth cyntaf i ymsefydlu yng Nghymru a’i gwneud yn gartref parhaol iddynt eu hunain.

Roedd Eldra hefyd yn or-wyres i John Roberts o’r Drenewydd a enillodd iddo’i hun y teitl Telynor Cymru yn y 19eg ganrif.

Gweithiai Ernest Roberts, Tad Eldra, fel ciper i’r Arglwydd Penrhyn yng Nghastell Penrhyn ger Bangor yng Ngogledd Cymru, a thrigai’r teulu gerllaw ym Methesda, tref sy’n enwog am ei chwarel lechi.  Ganwyd Eldra yn 1917 a daeth hithau, fel ei hen daid John Roberts, yn enwog am chwarae’r delyn Gymreig.

Ysgrifennodd Eldra a’i gŵr (Alfred Jarman) Y Sipsiwn Cymreig a’r fersiwn Saesneg ohono – The Welsh Gypsies: Children of Abram Wood – dau lyfr sy’n olrhain hanes y teuluoedd Romani Wood a Roberts.  Bu farw Eldra yn 2001 yn fuan ar ôl cydweithio ar y sgript deledu ar gyfer Eldra.      Eldra Roberts . . .

Eldra DVD - archebwch heddiw!


Copyright Warning 
Article - ValleyStream / Stef Solomon Bate 2007

All texts/audio/still/motion picture images are strictly copyright to ValleyStream Media 1980-2010 or to the stated contributor/
copyright holder/s or "unKn". Any unauthorised copying of any images or material from this website for any use is strictly prohibited without written permission from the image owners - owners of unknown images ("unKn")  from this website please contact us for fair use or image withdrawal. All rights reserved.

Y Sipsiwn Cymreig 
Robin Huw Bowen                   R H Bowen
Leisa Mererid, Rhys Richards, Iona W Jones                  S4C